Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 6 Tachwedd 2012

 

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Pleidleisiau a Thrafodion

(92)

 

<AI1>

1.   Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Dechreuodd yr eitem am 13:30

Gofynnwyd cwestiynau 1 i 6 ac 8 i 15. Ni ofynnwyd cwestiwn 7. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI1>

<AI2>

Cwestiwn Brys

Dechreuodd yr eitem am 14:18

Aled Roberts (Gogledd Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gais Comisiynydd Plant Cymru i lansio ymchwiliad newydd i gam-drin plant mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru.

</AI2>

<AI3>

2.   Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dechreuodd yr eitem am 14:28

</AI3>

<AI4>

3.   Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Ad-Drefnu Addysg Uwch

Dechreuodd yr eitem am 14:41

</AI4>

<AI5>

4.   Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Ymateb i adroddiad Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ardaloedd Twf Lleol Powys

Dechreuodd yr eitem am 15:06

</AI5>

<AI6>

5.   Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Law yn Llaw at Iechyd – Adroddiad Cynnydd Chwe Mis – gohiriwyd tan 13 Tachwedd

</AI6>

<AI7>

6.   Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Strategaeth Wyddoniaeth - gohiriwyd

</AI7>

<AI8>

7.   Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Bathodynnau Parcio Personau Anabl

Dechreuodd yr eitem am 15:40

NDM5039 Carl Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Bathodynnau Parcio Personau Anabl, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI8>

<AI9>

8.   Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio sy'n ymwneud â'r Banc Buddsoddi Gwyrdd

Dechreuodd yr eitem am 15:47

NDM5040 Edwina Hart (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau'r Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio sy’n ymwneud â’r Banc Buddsoddi Gwyrdd (y ”BBG”), i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI9>

<AI10>

9.   Dadl ar Ymgynghoriad ar Bolisi Adfywio yn y Dyfodol

Dechreuodd yr eitem am 15:53

NDM5080 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r ymgynghoriad ar y polisi adfywio yn y dyfodol a gynhwysir yn 'Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid – Fframwaith Adfywio Newydd’.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw’r polisi adfywio yn y dyfodol yn cyfeirio’n ystyrlon at Orllewin Cymru o gwbl.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

4

22

43

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r ymchwiliad parhaus gan Swyddfa Archwilio Cymru i drefniadau llywodraethu Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, ac i effeithiolrwydd trefniadau goruchwylio Llywodraeth Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

0

43

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio wedi gwneud unrhyw fuddsoddiad yn y sector preifat yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

28

43

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw’r ymgynghoriad ar y fframwaith adfywio newydd yn cynnig unrhyw dargedau y mae modd eu mesur.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

28

43

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y polisi adfywio yn y dyfodol yn mynd i'r afael â'r diffyg cysylltiad rhwng ardaloedd menter Llywodraeth Cymru a’i seilwaith trafnidiaeth.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

27

42

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth am gynigion penodol ar gyfer adfywio’r stryd fawr, gan gynnwys rhagor o fanylion am rôl bosibl ‘timau trefi’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

0

43

Derbyniwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5080 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r ymgynghoriad ar y polisi adfywio yn y dyfodol a gynhwysir yn 'Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid – Fframwaith Adfywio Newydd’.

Yn nodi'r ymchwiliad parhaus gan Swyddfa Archwilio Cymru i drefniadau llywodraethu Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, ac i effeithiolrwydd trefniadau goruchwylio Llywodraeth Cymru.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth am gynigion penodol ar gyfer adfywio’r stryd fawr, gan gynnwys rhagor o fanylion am rôl bosibl ‘timau trefi’.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

0

43

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

</AI10>

<AI11>

10.        Dadl ar Adroddiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Dechreuodd yr eitem am 16:30

NDM5081 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru ‘Sicrhau agenda gydraddoldeb a hawliau dynol gref – adolygiad Cymru 2011-12’.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adeiladu ar lwyddiant y Gemau Paralympaidd er mwyn hybu agwedd gadarnhaol at anabledd, a mynd i'r afael â gwahaniaethu a throseddau casineb anabledd.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi nad yw un o bob wyth unigolyn ifanc rhwng 16 a 18 oed yng Nghymru mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau i fynd i’r afael â'r broblem hon.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod y disgwyliad oes yng Nghymru yn is ar gyfartaledd nag yn Lloegr, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru a rhwng Cymru a gweddill y DU.

Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5081 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru ‘Sicrhau agenda gydraddoldeb a hawliau dynol gref – adolygiad Cymru 2011-12’.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adeiladu ar lwyddiant y Gemau Paralympaidd er mwyn hybu agwedd gadarnhaol at anabledd, a mynd i'r afael â gwahaniaethu a throseddau casineb anabledd.

Yn nodi nad yw un o bob wyth unigolyn ifanc rhwng 16 a 18 oed yng Nghymru mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau i fynd i’r afael â'r broblem hon.

Yn nodi bod y disgwyliad oes yng Nghymru yn is ar gyfartaledd nag yn Lloegr, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru a rhwng Cymru a gweddill y DU.

Derbyniwyd y cynnig, fel y'i diwygiwyd, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI11>

<AI12>

Cyfnod Pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 17:02</AI12>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 17:05

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 7 Tachwedd 2012

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>